Lleoliad:
Ysafell Bwyllgora 5 a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 10 Mai 2023
Amser:
09.15 -
12.13
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13333
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Russell George AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Gareth Davies AS Sarah Murphy AS Jack Sargeant AS Joyce Watson AS |
Tystion: |
Dr Zohra Ali, Cymdeithas Feddygol Islamaidd Prydain Rachel Downing, Target Ovarian Cancer Lowri Griffiths, Gofal Canser Tenovus Dr Shanti Karupiah, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Claire O'Shea, Un y mae canser wedi effeithio arni |
Staff y Pwyllgor: |
Helen Finlayson (Clerc) Claire Morris (Ail Glerc) Rhiannon Williams (Dirprwy Glerc) Sarah Hatherley (Ymchwilydd) Philippa Watkins (Ymchwilydd) Dr Paul Worthington (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau, dirprwyon na datganiadau o fuddiant.
2 Canserau gynaecolegol: Panel 3
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Gynghrair Canser Cymru.
3 Canserau gynaecolegol: Panel 4
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a Chymdeithas Feddygol Islamaidd Prydain.
3.2 Cytunodd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol i ddarparu rhagor o wybodaeth ynghylch a yw cleifion yn cyflwyno gyda chanser gynaecolegol yn hwyrach yn dilyn pandemig COVID-19.
4 Papurau i'w nodi
4.1 Llythyr ar y cyd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ynghylch Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
4.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4.2 Llythyr at y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y polisi Cymru gyfan ar ryddhau cleifion o’r ysbyty a chanllawiau cysylltiedig.
4.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4.3 Llythyr at y Pwyllgor Cyllid ynghylch tystiolaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2023-24
4.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4.4 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Gwasanaethau Endosgopi: ymchwiliad dilynol
4.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4.5 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y Rheoliadau Gofal Iechyd (Trefniadau Rhyngwladol) (Ymadael â’r UE) 2023
4.5 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4.6 Llythyr at y Pwyllgor Cyllid ynghylch cynaliadwyedd a chydbwysedd ariannol byrddau iechyd
4.6 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4.7 Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid ynghylch cynaliadwyedd a chydbwysedd ariannol byrddau iechyd
4.7 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn, ac o bob eitem y cyfarfod a gaiff ei gynnal ar 25 Mai 2023, ac eithrio Eitem 1 i Eitem 3.
5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
6 Canserau gynaecolegol: trafod y dystiolaeth
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.
7 Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru): Cyfnod 2
7.1 Trafododd y Pwyllgor faterion yn ymwneud â thrafodion Cyfnod 2.
7.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 26.21, cytunodd y Pwyllgor i amrywio trefn y broses ystyried ar gyfer trafodion Cyfnod 2 ar Fil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru), ac i ystyried adrannau’r Bil yn y drefn a ganlyn:
· Adrannau 2-5.
· Adran 1.
· Teitl hir.
8 Gwasanaethau endosgopi: Ymateb Llywodraeth Cymru
8.1 Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.